SL(6)651 - Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi, at ddibenion etholiad i Senedd Cymru pan gynhelir y pôl ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026, swyddi y mae eu deiliaid wedi eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd (ond nid rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd). Mae’r swyddi wedi eu disgrifio yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Mae swyddi eraill sy’n anghymhwyso a chategorïau o bersonau sydd wedi eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd (ac mewn rhai achosion rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd) wedi eu rhagnodi gan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) ac Atodlen 1A iddi.  Dylai’r Gorchymyn hwn gael ei ddarllen gyda’r darpariaethau hynny. 

Cyn pob etholiad i’r Senedd, gwneir Gorchymyn Anghymhwyso newydd sy’n dirymu’r Gorchymyn blaenorol ac yn nodi rhestr newydd o swyddi sy’n anghymhwyso.  Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 (O.S. 2020/1255), er bod y Gorchymyn hwnnw yn parhau i gael effaith ar gyfer etholiad i Senedd Cymru pan gynhelir y pôl cyn 6 Ebrill 2026.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Gorchymyn gerbron y Senedd. Ni chaniateir i Ei Fawrhydi yn y Cyfrin Gyngor wneud Gorchymyn o’r fath oni bai bod drafft o’r Gorchymyn wedi’i osod gerbron y Senedd a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y tri phwynt technegol a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn hwn yn nodi bod y meini prawf ar gyfer pennu’r swyddi sydd i’w hanghymhwyso yn deillio o ragflaenydd i argymhellion y Pwyllgor hwn yn 2014, yn sgil ei ymchwiliad i’r rheolau sy’n ymwneud ag anghymhwyso rhag bod yn aelod o’r Senedd.  Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'r canlynol:

 

“Yn 2014, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymchwiliad i’r rheolau sy’n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn aelod o’r Senedd. Roedd yr ymchwiliad hwnnw yn cynnwys 21 o argymhellion ac yn cynnig trawsnewid y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer anghymhwyso person rhag bod yn aelod o’r Senedd. Cytunodd Llywodraeth Cymru â phrif fyrdwn adroddiad y Pwyllgor.

 

Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015, ac yn sgil ymgynghori ar Orchymyn drafft Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025 (“Gorchymyn 2025”), rydym wedi parhau i anrhydeddu’r ymrwymiad hwnnw.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar Orchymyn 2025 rhwng 30 Mai 2025 a 25 Gorffennaf 2025, ac mae’r Gorchymyn drafft yn rhoi sylw i ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.

 

Roedd y meini prawf ar gyfer pennu pa swyddi a oedd i’w cynnwys yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor, gan gynnwys rhai ystyriaethau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r un egwyddorion wedi parhau i gael eu cymhwyso wrth ystyried y swyddi i’w cynnwys yng Ngorchymyn 2025. Cyhoeddwyd y meini prawf a’r egwyddorion yn ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar Orchymyn 2025.”

 

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

O ganlyniad i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 30 Mai 2025 a 25 Gorffennaf 2025, mae'r Memorandwm Esboniadol yn rhestru'r swyddi canlynol sydd wedi cael eu hychwanegu at y Gorchymyn drafft fel swyddi anghymwys:

-      Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru

Y swyddi sy’n anghymhwyso:  Cadeirydd, aelod amaethyddiaeth annibynnol ac aelod addysg annibynnol, a benodir gan Weinidogion Cymru

-      Comisiynydd y Lluoedd Arfog

Y swyddi sy’n anghymhwyso:  Comisiynydd

-      Pwyllgor Newid Hinsawdd

Y swyddi sy’n anghymhwyso:  Yr holl Aelodau

-      Cynghorau Cymuned a Thref

Y swyddi sy’n anghymhwyso: swyddog taledig sy’n gyfrifol, at ddibenion adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, am weinyddu materion ariannol y cyngor cymuned; person sy’n dal swydd daledig y mae’r cyngor cymuned yn ei phennu am y tro cyntaf yn y rhestr a gynhelir yn unol ag is-adran (2) ac unrhyw gyfarwyddydau o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

-      Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Y swyddi sy’n anghymhwyso:  Yr holl aelodau

-      Y Rheoleiddiwr Pêl-droed Annibynnol

Y swyddi sy’n anghymhwyso:  Yr holl aelodau

-      Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru

Y swyddi sy’n anghymhwyso:  Comisiynydd

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

1 Hydref 2025